UWB Crest

Gweithdai Adeiladu Cymuned: 10 a 17 Mai 2013

Adeiladu Cymuned: Gweithdai

Trefn y gweithdai

  • Ym mhob gweithdy ceir dwy sesiwn yn y bore gyda phapurau gan academyddion: un hanesyddol a’r llall ar bolisi cyfoes.
  • Bydd sesiwn y prynhawn yn cynnwys pedwar o siaradwyr/ymarferwyr a fydd yn rhoi atebion amlinellol, i’r cwestiynau ac i bapurau’r bore, yn seiliedig ar eu profiadau eu hunain. Dilynir hyn gan drafodaeth agored gyda'r gynulleidfa.

Mae adeiladu cymuned, neu ddatblygu cymuned, yn fater sydd wedi cael sylw gan y wladwriaeth, llywodraeth leol ac asiantaethau gwirfoddol ers y 1960au ac ‘ailddarganfod’ tlodi. O ddiwedd y 1960au a thrwy gydol y 1970au rhoddodd gwahanol lywodraethau gychwyn ar nifer o brojectau peilot, megis yr Ardaloedd Blaenoriaeth Addysg, Projectau Datblygu Cymunedol, Cynlluniau Cymdogaeth, Rhaglenni Ansawdd Bywyd, Astudiaethau Chwe Thref a Rhaglen Cymunedau Cynhwysfawr. Diffiniwyd y broblem o ran ‘patholegau unigol’ ac ‘amddifadrwydd a drosglwyddir’. Roedd datblygu cymunedol yn canolbwyntio ar greu grwpiau hunangymorth a chyd-gymorth i roi sylw i’r hyn a ystyrid fel problem mewn ardaloedd trefol yn bennaf. Fodd bynnag, roedd y projectau hyn yn wynebu llu o broblemau, yn anad dim y problemau economaidd dybryd a oedd yn wynebu hen ardaloedd diwydiannol, yn drefol a gwledig.

Cyhuddwyd llywodraethau o wneud fawr ddim mwy na chrafu’r wyneb. Yn gynyddol, dan lywodraethau Llafur ac yna Ceidwadol, daeth datblygu cymunedol i ganolbwyntio ar yr angen sylfaenol am adfywiad economaidd. Fodd bynnag, ni arweiniodd hyn o anghenraid at y math o ddatblygu cymunedol a oedd ei angen i’r tlawd a’r difreintiedig. Ers diwedd y 1990au mae’r wladwriaeth, awdurdodau lleol a chynulliadau datganoledig, ac amrywiaeth o sefydliadau gwirfoddol, wedi ceisio unioni’r diffygion mewn polisi a dulliau o ymdrin â datblygu cymunedol.

Yn dilyn y Gynhadledd Cymunedau, a gynhaliwyd ym Mangor ar 13 Medi 2012, byddwn yn cynnal dau weithdy i edrych ar y materion allweddol yn ymwneud â sefydlogrwydd cymunedau.

Gweithdy 1: Dydd Gwener 10 Mai 2013

Adeiladu a Llywodraethu Cymuned

Bydd y gweithdy hwn yn trafod rhai agweddau allweddol ar adeiladu cymuned, o ran beth sy’n tanseilio cydlyniad cymdeithasol a pha bolisïau a sefydliadau sydd wedi creu cymunedau sefydlog. Bydd yn canolbwyntio ar lywodraethu, sefydliadau cyhoeddus a pholisïau.

Gweithdy 2: Dydd Gwener 17 Mai 2013

Adeiladu Cymuned a’r Trydydd Sector: Cymdeithas Sifil a Chymuned Gynaliadwy

Bydd y gweithdy hwn yn trafod rhai agweddau allweddol ar adeiladu cymuned, o ran beth sy’n tanseilio cydlyniad cymdeithasol a pha bolisïau a sefydliadau sydd wedi creu cymunedau sefydlog. Bydd yn canolbwyntio ar gymdeithas sifil, ar elusennau a grwpiau sy’n cynorthwyo eraill. Mae’r gweithdai hyn o ddiddordeb i unrhyw un sy’n ymwneud â chymunedau, llywodraethu a’r trydydd sector: academyddion, ymarferwyr, myfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd yn arbennig.

Cofrestrwch nawr!

Os hoffech ddod a fyddech cystal â llenwi’r ffurflen gofrestru.

 

wiserd